Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Cronfa i Gymru 2026/27

Mae Cronfa i Gymru yn gronfa waddol cymunedol cenedlaethol, a reolir ac a hyrwyddir gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’n rhaglen hyrwyddo dyngarwch a rhoi grantiau sy’n codi arian gan bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU, a thramor sydd eisiau ‘rhoi yn ôl’ i gefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae Cronfa Cymru yn cysylltu pobl sy’n gofalu ag achosion sy’n bwysig.

Ar hyn o bryd mae’r gronfa yn cael ei chefnogi trwy bartneriaeth â Loteri Cod Post y Bobl, ochr yn ochr â chyfraniad gan Tiny Rebel a Goodwash.

Mae Cronfa Cymru yn agored i elusennau a mudiadau gwirfoddol bach, lleol, a arweinir gan y gymuned (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol a chlybiau), gydag incwm blynyddol o lai na £100,000.

Canlyniadau’r Gronfa:

  • Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
  • Adeiladu cymunedau cryfach
  • Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
  • Annog pobl a chymunedau iachach a mwy egnïol
  • Cadw treftadaeth a diwylliant.

Dyddiad cau ceisiadau: 9 Tachwedd 2026 12.00 hanner dydd