01.05.2026 |
Diwrnod Rhyngwladol Chwarae (IDP) – Cymryd Drosodd y Maes Chwarae: Ffenestr Pleidleisio Nawr ar Agor
Cawsom nifer gwych o enwebiadau ar gyfer y digwyddiad, Cymryd Drosodd y Maes Chwarae 2026, eleni. Mae tîm Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi bod yn brysur yn llunio’r rhestr fer, ac mae’r ysgolion canlynol wedi wneud hi ar y rhestr fer – nawr mae drosodd i chi bleidleisio dros eich hoff ysgol. Bydd un enillydd o bob rhanbarth (De-ddwyrain Cymru, Gorllewin Cymru a Gogledd Cymru).
Yn Ne-ddwyrain Cymru, yr ysgolion ar y rhestr fer yw:
- Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Rhondda Cynon Taf
- Ysgol Gynradd Llanfair, Bro Morgannwg
- Ysgol Gynradd Llanilltuid Faerdref, Rhondda Cynon Taf
Yng Ngorllewin Cymru, yr ysgolion ar y rhestr fer yw:
- Ysgol Yr Hendy, Sir Gaerfyrddin
- Ysgol Gynradd Casllwchwr, Abertawe
- Ysgol y Dderi, Ceredigion
Yng Ngogledd Cymru, yr ysgolion ar y rhestr fer yw:
- Ysgol Esgob Morgan, Sir Ddinbych
- Ysgol Rofft, Wrecsam
- Ysgol Gynradd Gymunedol Parc Borras, Wrecsam
Bydd pob ysgol – fel rhan o ddigwyddiad Cymryd Drosodd y Maes Chwarae – yn croesawu tîm o weithwyr chwarae a fydd yn dod ag amrywiaeth o adnoddau a rhannau rhydd ar gyfer prynhawn cyfan o chwarae am ddim ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae.Mae Diwrnod Rhyngwladol Chwarae (IDP) yn gyfle i ddathlu pŵer chwarae ac yn cydnabod chwarae fel hawl sylfaenol sy’n cefnogi datblygiad plant, iechyd meddwl a chorfforol, cynhwysiant cymdeithasol, ymdeimlad o berthyn, gwytnwch, creadigrwydd a llesiant.
Bydd y ffenestr bleidleisio ar agor tan 15 Mai 2026 – felly ewch ati i rannu!