Mae AGC angen eich help: Merthyr Tudful

Ym mis Mai 2026, bydd AGC yn cynnal gwiriad sicrwydd o Wasanaethau Plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Nod yr adolygiad hwn yw asesu pa mor effeithiol y mae’r awdurdod lleol yn cyflawni ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol, ar ran Gweinidogion Cymru.

Os ydych chi neu’ch teulu yn cael eich cefnogi gan y tîm Gwasanaethau Plant, byddai AGC yn gwerthfawrogi clywed am eich profiadau.

Gofynnwch yn garedig i chi gwblhau un o’r arolygon isod a rhannu eich adborth erbyn 13 Mai.