IPA – 31 munud ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Mae’r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn prysur agosáu, ac mae’r IPA (Cymdeithas Chwarae Ryngwladol) yn galw ar bob ysgol i ymuno â’r Her Chwarae 31 ar 11 Mehefin.

Wedi’i ysbrydoli gan Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, anogir ysgolion i ganiatáu 31 munud ychwanegol ar gyfer chwarae yn y diwrnod ysgol. Mae hyn yn gyfle gwych i godi proffil hawliau Erthygl 31 gydag ysgolion a phlant eu hunain fel deiliaid hawliau.

Sut allwch chi annog mwy o chwarae i blant yn eich lleoliad a’ch cymuned.