Chwarae yn yr Awyr Agored: Gwaith Chwarae Ymarferol ar gyfer yr Haf – 27 Mai

Ymunwch â ni yn ystod hanner tymor Mai am sesiwn Gwaith Chwarae Ymarferol hwyliog a chynhwysol, wedi’i chynllunio i’ch ysbrydoli ar gyfer yr haf ac i’ch paratoi ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae!

Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn canolbwyntio ar chwarae yn yr awyr agored, ac yn llawn syniadau creadigol, gemau a gweithgareddau y gallwch eu cymryd yn ôl i’ch lleoliad yn syth. Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio chwarae gyda rhannau rhydd, chwarae synhwyraidd, chwarae mentrus a gemau grŵp, gan roi digon o ysbrydoliaeth i chi wella profiadau plant i chwarae yn yr awyr agored,

Mae’n gyfle gwych i fod yn egnïol, rhoi cynnig ar sgiliau gwaith chwarae newydd, a magu hyder wrth ddarparu cyfleoedd chwarae awyr agored difyr ac ystyrlon. Bydd cyfle hefyd i gysylltu gyda gweithwyr chwarae eraill, rhannu syniadau ac adlewyrchu ar eich arfer mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol.

Mae cefnogaeth ar gael i siaradwyr Cymraeg gan fod y ddau Swyddog Hyfforddi yn siarad Cymraeg.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu’n gynnar i sicrhau eich lle!

Ar agor i Brentisiaid a Lleoliadau Aelodau yn unig

Dyddiad ac Amser: 27 Mai 09.30-12.00

Lleoliad: Canolfan Blant Trelái a Chaerau, Michaelston Road, Trelái, Caerdydd, CF5 4SX