15.05.2026 |
CThEF: Cyflwyno Treth yn Ddigidol
Darganfyddwch sut y bydd gofyn i chi sicrhau eich bod yn Cyflwyno Treth yn Ddigidol o:
- Ebrill 2026, os yw eich trosiant dros £50,000 yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025
- Ebrill 2027, os yw eich trosiant dros £30,000 yn y flwyddyn dreth 2025 i 2026
- Ebrill 2028, os yw eich trosiant dros £20,000 yn y flwyddyn dreth 2026 i 2027 (mae’r llywodraeth wedi nodi cynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i ostwng y trothwy incwm cymhwyso i’r lefel hon)
Mae CThEF yn cynnal gweminarau i’ch helpu i ddeall y camau angenrheidiol y bydd angen i’ch busnes eu cymryd er mwyn bod yn barod.
Dysgwch ragor ddydd Mawrth 19 Mai:
Ar gyfer busnesau, cofrestrwch yma ar gyfer ein gweminar: ‘Sut i baratoi ar gyfer Cyflwyno Treth yn Ddigidol os ydych yn fusnes’.