19/05/2026 |
Rheolwr Clwb / Uwch Weithiwr Chwarae – Rascals ASC, Sir Fynwy
Dyddiad cau: 31/07/2026
Oriau: 30 awr (24 yn y clwb a 6 ar gyfer gwaith papur a thasgau eraill) yn ystod y tymor, cyn ac ar ôl oriau ysgol. Oriau agor 7:45 – 9am a 3 – 6pm bob diwrnod ysgol, yn ystod y tymor yn unig. Rhaid bod yn barod i weithio ar ddiwrnodau HMS yr ysgol, ar agor rhwng 8yb a 6yh.
Cyflog: Yn dechrau ar £13.73 ac yn dibynnu ar brofiad
Cymwysterau / profiad gofynnol:
- Gweithiwr Chwarae Lefel 3, Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (CCLD) neu gymhwyster cyfatebol
- Cymorth cyntaf pediatrig neu barodrwydd i gael y dystysgrif
- Hylendid bwyd Lefel 2 a pharodrwydd i wneud Lefel 3
- Profiad rheoli o weithio mewn lleoliad gofal plant
Bydd angen gwiriad DBS ar gyfer y rôl hon.
Disgrifiad o’r dyletswyddau:
- Goruchwylio gweithrediadau dyddiol y Clwb Brecwast a’r Clwb R’ ôl Ysgol
- Siopa am fyrbrydau i’r plant, eu trefnu a’u gweini
- Arwain a chymell tîm o weithwyr proffesiynol gofal plant
- Sicrhau diogelwch a lles plant yn ein lleoliad
- Cynllunio a gweithredu gweithgareddau deniadol
- Cydgysylltu â rhieni, staff yr ysgol ac asiantaethau allanol
- Cadw cofnodion cywir a chydymffurfio â’r holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol, gan eu diweddaru a’u hadolygu
- Gwybodaeth am ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, mynychu hyfforddiant rheolaidd, a chadw hyfforddiant staff yn gyfredol.
Sut i ymgeisio: Anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at raglanrascals@live.co.uk yn amlinellu eich diddordeb yn y rôl a’ch addasrwydd ar ei chyfer.
Bydd y swydd yn dechrau ym mis Medi 2026 gan weithio ochr yn ochr â’r rheolwr presennol ar gyfer trosglwyddo, cyn cymryd yr awenau i redeg y clwb o fis Ionawr 2027.
Lleoliad y swydd: Raglan, NP15 2EN
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran eu Haelodau. Am ragor o wybodaeth, dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr hysbyseb a delio’n uniongyrchol â’r person a osododd yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd neu gynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.
.