Yn y sesiwn hon, mae Sam yn rhannu straeon am chwarae o’i brofiad fel gweithiwr chwarae, ynghyd ag atgofion o’i blentyndod ei hun. Mae’n archwilio’r profiadau sy’n aros gyda ni, yn llunio ein dealltwriaeth o chwarae, ac yn dylanwadu ar ein harfer. Mae’r sesiwn hon yn ddathliad o chwarae a’r plant rydym yn gweithio gyda nhw.
Mae Chwarae Cymru wedi gweithio gyda’r sector gwaith chwarae i ddatblygu cynllun sicrhau ansawdd allanol ar gyfer gwaith chwarae. Drwy ddefnyddio’r bathodyn ‘Chwarae o Safon’, gall lleoliadau weithio tuag at ennill marc ansawdd digidol sy’n cydnabod eu hymrwymiad i arfer gwaith chwarae o safon. Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i’r fframwaith ansawdd, yn archwilio’r dangosyddion ansawdd, yn datblygu dealltwriaeth o’r broses hunanasesu, ac yn darparu cyfle i drafod y broses o sicrhau ansawdd allanol. Ar hyd y ffordd, byddem yn gobeithio cael ychydig o hwyl a hyrddiau o chwerthin wrth i ni archwilio beth mae arfer gwaith chwarae o safon yn ei olygu go iawn.
Yn y gweithdy hwn, byddwn yn archwilio Fframwaith Cymru sy’n Ystyriol o Drawma, gan ystyried beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol i wasanaethau gofal plant, a rhannu enghreifftiau o adnoddau i gefnogi’r gwaith o wreiddio arfer sy’n ystyriol o drawma ac ACE yn eich lleoliadau.
Mae chwarae wrth galon gofal plant y tu allan i’r ysgol, acy tu ôl i bob lleoliad llawn hwyl mae tîm sy’n teimlo ei fod yn cael ei gefnogi, ei werthfawrogi a’i ysbrydoli. Mae’r gweithdy calonogol hwn yn archwilio sut mae arweinyddiaeth dosturiol yn helpu gweithwyr chwarae a thimau i ffynnu go iawn. Gan gyfuno mewnwelediad bywyd go iawn â myfyrio, hiwmor a mymryn o hud, byddwn yn dathlu’r rôl anhygoel y mae gweithwyr chwarae yn ei chwarae wrth rannu ffyrdd syml ac ymarferol o arwain gyda charedigrwydd, hyder a chalon. Gyda’n gilydd, byddwn yn archwilio sut y gall gweithredoedd bach o dosturi greu timau cryfach, profiadau chwarae cyfoethocach a mannau lle gall pawb ffynnu. Disgwyliwch gynhesrwydd, chwerthin a digon o eiliadau “mae hynny mor wir!” – ynghyd â syniadau y gallwch eu cymryd yn ôl a’u defnyddio ar unwaith.
Mae Ben Kingston-Hughes yn brif siaradwr rhyngwladol, yn awdur ac yn hyfforddwr sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae’n gweithio gyda phlant agored i niwed ledled y DU ac mae wedi ymddangos ar y teledu yn gweithio ar amrywiaeth o brosiectau plant. Mae ei gyfuniad unigryw o hiwmor, niwrowyddoniaeth a phrofiadau bywyd go iawn wedi gwneud ei hyfforddiant yn amhrisiadwy i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant.
Mae’r sesiwn hon yn archwilio’r hyn y gall ymddygiad plant ei ddweud wrthym a sut y gallwn gefnogi plant mewn ffordd gadarnhaol pan fydd ymddygiad yn dod yn heriol, gan:
Mae Llywodraeth Cymru, Chwarae Cymru a Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi datblygu adnoddau hyfforddi newydd ar gyfer gwaith chwarae i gefnogi gweithwyr chwarae a staff gofal plant i ddefnyddio fframwaith NYTH yn eu harfer gwaith chwarae. Mae fframwaith NYTH yn ddull system gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles babanod, plant a phobl ifanc. Mae’n cyflwyno set gyffredin o egwyddorion ar draws sectorau i helpu i adeiladu cymorth cydgysylltiedig ar gyfer iechyd meddwl a lles plant a theuluoedd.
Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno fframwaith NYTH ac yn rhoi cyfle i chi roi cynnig ar rai o’r gweithgareddau a’r adnoddau newydd sydd wedi’u datblygu ar gyfer y sector gwaith chwarae.
This workshop explores how the Welsh Promise supports practitioners to
As the days grow shorter and the weather becomes colder, wetter and darker, outdoor play can often be reduced or avoided altogether. This session explores the importance of embracing winter play and creating meaningful opportunities for children to play outdoors throughout the darker months. Together, we will consider practical ideas, risk-benefit thinking, seasonal environments, and ways to support confidence, wellbeing, resilience and joy through play in all weathers, finishing with a couple of practical games that you can take away to play.