19.06.2026 |
Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) Wedi’u Diweddaru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) wedi’u diweddaru ar gyfer gofal plant rheoleiddiedig a chwarae mynediad agored rheoleiddiedig.
Mae’r newidiadau yn disgyn i ddau brif gategori: y rhai a wnaed yn dilyn adolygiad o’r Safonau ac ymgynghoriad cyhoeddus, a diweddariadau arferol a wneir i sicrhau bod y Safonau yn gydnaws â pholisïau a deddfwriaeth gyfredol.
Gellir darllen crynodeb o’r newidiadau allweddol yma:
Argymhellir bod darparwyr yn ymgyfarwyddo â’r fersiwn ddiwygiedig hon o’r Safonau a’u bod yn cael gwared ar unrhyw gopïau papur blaenorol.
Angen help i ddeall y newidiadau? Cysylltwch â ni am gymorth contact@clybiauplantcymru.org