Mae Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn trawsnewid y ffordd y mae busnesau ledled Cymru yn arloesi, yn cystadlu ac yn tyfu

O helpu busnesau newydd i fabwysiadu offer digidol i helpu cwmnïau sefydledig i symlhau gweithrediadau, mae AI yn cynnig ffyrdd ymarferol o wella cynhyrchiant, gwella gwneud penderfyniadau, a datgloi cyfleoedd newydd.

I gefnogi busnesau i ddeall a mabwysiadu AI gyda hyder, mae Busnes Cymru wedi datblygu ac yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth a mabwysiadu AI ar gyfer microfusnesau a busnesau bach a chanolig (BBaCh). Diddordeb mewn dysgu mwy am ddeallusrwydd artiffisial (AI)? Mae Busnes Cymru yn cynnal amrywiaeth o weminarau a digwyddiadau, cliciwch ar y ddolen yma Digwyddiadur Busnes Cymru i gofrestru ac i wybod mwy.

Mae’r cymorth hwn wedi’i gynllunio i helpu busnesau i feithrin hyder, adnabod achosion defnydd ymarferol, a chymryd y camau cyntaf gwybodus tuag at fabwysiadu AI yn gyfrifol. Byddwn yn gallu rhannu mwy o wybodaeth yn fuan am y sesiynau codi ymwybyddiaeth a sut i gofrestru.