10.07.2026 |
Sicrhau bod eich Clwb R’ôl Ysgol yn cydymffurfio â gofynion AGC
Rydym yn gwybod bod rhedeg Clwb Gofal R’ôl-Ysgol yn cynnwys rheoli nifer o gyfrifoldebau, ac rydym am gefnogi darparwyr i deimlo’n hyderus wrth gyflawni eu dyletswyddau. Mae hwn yn nodyn atgoffa defnyddiol i bob clwb sydd wedi’i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) fod yn rhaid i wasanaethau, ni waeth ble y darperir y gofal, barhau i gydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth, rheoliadau, Safonau Gofynnol Cenedlaethol ac amodau eu cofrestriad AGC perthnasol.
Mae cofrestriad AGC yn dod â chyfrifoldeb parhaus i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei redeg yn unol â’r gofynion hyn. Mae hyn yn berthnasol p’un a yw clwb yn gweithredu o ysgol, lleoliad cymunedol, canolfan hamdden neu unrhyw leoliad arall. Gall darparwyr ei gael yn ddefnyddiol adolygu eu polisïau, gweithdrefnau, trefniadau staffio ac arferion dydd i ddydd yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn parhau i gefnogi gofal diogel o ansawdd uchel i blant.
Mae’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed yn darparu fframwaith defnyddiol i ddeall yr hyn a ddisgwylir gan wasanaethau gofal plant cofrestredig. Dylid eu darllen ochr yn ochr â’r ddeddfwriaeth a’r rheoliadau perthnasol, yn ogystal ag unrhyw amodau cofrestru.
Os ydych yn ansicr ynghylch sut mae’r gofynion hyn yn berthnasol i’ch lleoliad, neu os hoffech gael cymorth i adolygu eich arferion, cysylltwch â ni – rydym yma i helpu. Mae gennym hefyd ystod o becynnau cymorth gwella ansawdd y gallwch ddewis ohonynt er mwyn gwella arferion mewn gwahanol feysydd o’ch darpariaeth.
Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant wedi’i reoleiddio | LLYW.CYMRU