16.07.2026 |
Mae’r Ddadl ynghylch Costau Gofal Plant Gwyliau yn Anwybyddu Ansawdd a Safonau, meddai Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
Mae Cymru ar flaen y gad ym Mhrydain Fawr o ran deall yr angen am ofal plant gwyliau, ond rhaid i fforddiadwyedd fynd law yn llaw ag ansawdd a buddsoddiad yn y gweithlu.
Yn ymateb i Arolwg Gofal Plant yn ystod y Gwyliau 2026 gan Coram Teulu a Gofal Plant, dywedodd Jane O’Toole, Prif Weithredwr Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs: “Dylid ystyried y canfyddiadau yn eu cyd-destun llawn, yn hytrach na’u nodweddu gan un pennawd sy’n canolbwyntio ar gost yn unig.”
Er bod yr adroddiad yn dangos bod cost gyfartalog gofal plant gwyliau yng Nghymru yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol yn Lloegr, mae hefyd yn tynnu sylw at gryfderau pwysig o fewn system gofal plant gwyliau Cymru. Mae gan awdurdodau lleol Cymru ddealltwriaeth sylweddol well o ddigonolrwydd gofal plant nag yn Lloegr a’r Alban, ac mae gan Gymru’r gyfran uchaf o glybiau gwyliau sydd ar agor drwy gydol gwyliau’r ysgol ym Mhrydain Fawr.
Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod y cyfartaledd ar gyfer Lloegr yn cuddio amrywiadau sylweddol rhwng rhanbarthau. Mae De-ddwyrain Lloegr yn adrodd cost wythnosol gyfartalog o £226.55 am glwb gwyliau, i gymharu â £223.59 yng Nghymru, tra bod Gogledd-ddwyrain Lloegr a Chanol Llundain hefyd yn agos at lefelau Cymru.
Yn ogystal, mae’r ffordd y caiff y ddarpariaeth ei chyflwyno yn amrywio ar draws gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig, ac nid yw’r pennawd hwn yn adlewyrchu hynny. Nid yw’r data sydd ar gael mewn gwledydd eraill yn ddigonol i alluogi cymhariaeth wirioneddol. Yng Nghymru, mae darpariaeth gofal plant yn ystod y gwyliau sydd wedi’i chofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn fwy tebygol o gael ei darparu gan ddarparwyr preifat nag y mae mewn rhai rhanbarthau eraill, lle mae mwy o ddarpariaeth yn cael ei chynnal gan y sector statudol. O ganlyniad, mae’r trefniadau ariannu ar gyfer y ddarpariaeth yn debygol o fod yn wahanol.
Dywedodd Jane O’Toole:
“Mae’r pennawd bod gofal plant yn costio mwy yng Nghymru mewn perygl o anwybyddu’r darlun ehangach. Wrth gwrs, mae angen i ofal plant fod yn fforddiadwy i deuluoedd, ond ni ellir gwahanu fforddiadwyedd oddi wrth ansawdd, diogelwch, argaeledd a’r safonau a ddisgwylir gan y gweithlu sy’n darparu’r gwasanaethau hyn.
Os ydym yn cymharu costau, rhaid inni hefyd gymharu’r hyn y mae teuluoedd yn ei gael yn gyfnewid. Mae gan Gymru ddealltwriaeth gryfach o ddigonolrwydd gofal plant, darpariaeth gwyliau ehangach, a sector gofal plant a chwarae gwaith rheoleiddiedig sy’n rhoi pwyslais gwirioneddol ar ddiogelu, ansawdd a datblygu’r gweithlu.
Nid y cwestiwn go iawn yw pwy sydd â’r gofal plant rhataf, ond a yw teuluoedd yn gallu cael mynediad at ofal plant diogel, o ansawdd uchel ac sy’n cyfoethogi profiadau plant, wedi’i ddarparu gan weithwyr medrus a chymwys, pan fo’i angen arnynt. O fesur hynny, mae gan Gymru stori gref i’w hadrodd.”
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs hefyd wedi rhybuddio bod cymharu Cymru â Lloegr fel un cyfartaledd cenedlaethol yn peri risg o guddio’r ffaith bod rhai rhanbarthau yn Lloegr eisoes yn wynebu costau gofal plant gwyliau sydd yr un mor uchel neu’n uwch na’r rhai yng Nghymru. Dywedodd y sefydliad y dylai unrhyw drafodaeth gyhoeddus am gostau hefyd gydnabod y gwahaniaethau mewn modelau darparu, rheoleiddio, disgwyliadau’r gweithlu ac argaeledd ar draws cenhedloedd a rhanbarthau Prydain Fawr.
Am ragor o wybodaeth, neu i drafod y mater ymhellach, cysylltwch â:
Ffôn: 029 2074 1000
E-bost: info@clybiauplantcymru.org