Rhythm Gwyllt – Taith Gerdded Sain Ymgolli ym Myd Natur!

Ymunwch â Coram PACEY Cymru a Rhythm Gwyllt am Daith Gerdded Sain Ymgolli ym Myd Natur!

Darganfyddwch drac sain cudd y byd naturiol! Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae pryfyn yn swnio? Pa gyfrinachau sain sy’n cuddio o dan wyneb y dŵr? Oeddech chi’n gwybod y gall planhigion greu cerddoriaeth? Dewch yn “Dditectif Natur” drwy ddefnyddio offer cŵl, uwch-dechnoleg sy’n cysylltu â seinluniau cyfrinachol natur.

Dewch i fachu pâr o glustffonau a phrofi natur fel nad ydych erioed wedi’i chlywed o’r blaen. Nid taith gerdded yn unig yw hon – mae’n antur wrando!

Pryd a Ble?

Rydym yn cynnal digwyddiadau ledled Cymru. Bydd pob digwyddiad yn dechrau am 10am ac yn gorffen am 11.30am.

Dydd Iau 30 Gorffennaf 2026 – Parc Wepre, Glannau Dyfrdwy, Sir Fflin CH5 4HL

Dydd Gwener 31 Gorffennaf 2026 – Canolfan Ddiwylliant Conwy, Town Ditch Road, Conwy, LL32 8NU