Diwrnod Chwarae 5 Awst 2026

2 wythnos i fynd tan Ddiwrnod Chwarae!

Mae’r cyfnod cyfri lawr wedi dechrau!

Ymunwch â ni wrth inni ddathlu pwysigrwydd chwarae plant, hwyl, cyfeillgarwch a chymuned.

Mae chwarae’n helpu plant i:

  • Fagu hyder
  • Datblygu creadigrwydd
  • Gwneud ffrindiau
  • Cadw’n actif

Nodwch y dyddiad a chynlluniwch eich Diwrnod Chwarae eich hun yn eich Clwb Gwyliau. Ymgysylltwch â’r gymuned leol i sicrhau bod pob plentyn yn cael mynediad at ei Hawl i Chwarae.

Rydym yn edrych ymlaen i ddathlu Diwrnod Chwarae ar 5 Awst 2026. Cadwch lygad am ddigwyddiadau yn eich cymuned leol, lle gall teuluoedd edrych ymlaen at ddiwrnod llawn gweithgareddau hwyliog. Mae llawer o Awdurdodau Lleol a Chlybiau Gofal Plant All-Ysgol yn cynnal digwyddiadau gyda chyfleoedd chwarae dan do ac yn yr awyr agored, a chysylltiadau cymunedol.

Cadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am uchafbwyntiau gweithgareddau a diweddariadau am ddigwyddiadau.