Marchnata eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol drwy gydol yr Haf

  • Yn ansicr ynghylch lefelau presenoldeb eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol o fis Medi ymlaen?
  • Yn ansicr sut i estyn allan i’ch cymuned leol?
  • Angen rhywfaint o gymorth ac eglurder i symud eich clwb ymlaen?

Cynlluniwch ar gyfer mis Medi gyda’n Hawgrymiadau Canva ar gyfer Marchnata eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol.

Neu beth am fanteisio ar y cyfle hwn os ydych yn ystyried ailfrandio neu ddatblygu eich logo eich hun?

Creu eich logo yn Canva

Dysgwch sut i greu logo yn Canva a’i fireinio i lunio logo unigryw a phroffesiynol sy’n adlewyrchu eich brand: canva.com/design-school/resources/creating-your-logo

Os oes angen help, cefnogaeth, arweiniad neu ychydig o anogaeth arnoch, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant: info@clybiauplantcymru.org

Neu gallwn eich helpu drwy ddefnyddio ein pecyn cymorth Dadansoddi Anghenion Marchnata (MNA): Pecyn Cymorth Gwella Ansawdd – Clybiau Plant Cymru (CY)