Cefnogi teuluoedd i gyrchu eich Clwb Gofal Plant All-Ysgol

Costau gofal plant Credyd Cynhwysol

Os ydych yn talu am ofal plant er mwyn gallu mynd i’r gwaith, gall Credyd Cynhwysol dalu cyfran o’ch costau gofal plant.

Darganfyddwch fwy drwy’r ddolen isod er mwyn i chi allu rhannu’r wybodaeth gyda’r teuluoedd yn eich cymuned. Dyma un o’r ffyrdd y gall teuluoedd gael cyrchu gymorth i gael help gyda chostau ymlaen llaw gofal plant:

“Fel arfer, bydd angen i chi dalu am y gofal plant yn gyntaf. Os na allwch dalu’r gost ymlaen llaw honno, efallai y gallwch gael cymorth gyda hynny.

Efallai y gallwch gael cymorth os oes rhaid i chi dalu costau gofal plant ymlaen llaw ac os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn dechrau gwaith
  • rydych yn cynyddu nifer yr oriau rydych yn eu gweithio, er enghraifft os ydych wedi symud o waith rhan-amser i waith llawn amser

Os ydych yn dechrau swydd newydd, efallai y gallwch gael holl gostau eich gofal plant wedi’u talu ar gyfer y mis cyntaf.

Os ydych yn cynyddu nifer yr oriau rydych yn eu gweithio, efallai y gallwch gael holl gostau ychwanegol eich gofal plant wedi’u talu am gyfnod o un mis.

Efallai y gallwch hefyd gael cymorth os oes rhaid i chi dalu blaendal neu ffi cadw lle i’ch darparwr gofal plant.”