02.10.2026 |
Ein Blodyn Amrywiaeth
Faint o bethau sy’n wneud chi, yn chi?
Gwnewch flodyn mawr gyda phetal ar gyfer pob plentyn yn eich clwb. Gofynnwch i bob plentyn addurno neu ysgrifennu rhywbeth ar ei betal sy’n ei wneud yn unigryw neu’n arbennig.
Gallai hyn fod yn:
- Iaith y maent yn ei siarad
- Rhywbeth y maent yn mwynhau ei wneud
- Eu hoff fwyd
- Traddodiad teuluol
- Lle sy’n arbennig iddynt
- Rhywbeth y maent yn arbennig o dda yn ei wneud
- Person sy’n bwysig iddynt
- Rhywbeth y maent yn falch ohono
Casglwch yr holl betalau ynghyd i greu un Blodyn Amrywiaeth mawr ar gyfer eich clwb.
Ymestyn y gweithgaredd: Trafodwch sut mae pob petal yn wahanol, ond eu bod i gyd yn rhan o’r un blodyn. Yn yr un modd, gall pawb yn eich clwb fod yn wahanol ond dal i fod yn rhan o’r un gymuned.
Mae’r gweithgaredd hwn wedi’i ysbrydoli gan ein gwaith Dathlu Amrywiaeth ein hunain ac mae’n ffordd syml o ddechrau sgyrsiau am hunaniaeth, gwahaniaeth a pherthyn.