02.10.2026 |
Mae DBS yn lleihau ffioedd ar gyfer gwiriadau a’r Gwasanaeth Diweddaru o 5 Hydref 2026 ymlaen
Mae newyddion da i ddarparwyr gofal plant yr wythnos hon! Mae’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn lleihau cost gwiriadau DBS a thanysgrifiadau’r Gwasanaeth Diweddaru o ddydd Llun 5 Hydref 2026.
Y ffioedd newydd fydd:
- Gwiriad DBS Sylfaenol: £20 – wedi’i ostwng o £21.50
- Gwiriad DBS Safonol: £20 – wedi’i ostwng o £21.50
- Gwiriad DBS Uwch: £41 – wedi’i ostwng o £49.50
- Gwasanaeth Diweddaru: £15 y flwyddyn – wedi’i ostwng o £16
- Gwiriadau DBS gwirfoddolwyr: yn parhau am ddim
Y gostyngiad mwyaf yw ar gyfer gwiriadau DBS Uwch, sy’n ofynnol yn aml i’r rhai sy’n gweithio mewn gweithgareddau rheoleiddiedig gyda phlant.
Mae’r DBS wedi cadarnhau na fydd y gostyngiadau hyn yn cael unrhyw effaith ar safon na thrylwyredd gwiriadau DBS.