Camau – Cymerwch eich Camau Cyntaf yn y Gymraeg 

Ydych chi eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn eich lleoliad gofal plant? Mae Camau yn gwrs ymarferol ar gyfer y blynyddoedd cynnar, gofal plant ac ymarferwyr gwaith chwarae, heb fod angen unrhyw brofiad blaenorol o’r Gymraeg.  

Dysgwch Gymraeg y gallwch ei defnyddio bob dydd  

Dysgwch Gymraeg ddefnyddiol ar gyfer cyfarchion, cyfarwyddiadau, lliwiau, rhifau, caneuon, gweithgareddau a theimladau.  

Byddwch yn dysgu sut i:
 

  • Cyfarch plant a theuluoedd yn Gymraeg 
  • Siarad am liwiau, y tywydd, teganau a gweithgareddau 
  • Rhoi cyfarwyddiadau syml yn ystod chwarae 
  • Siarad am deimladau 
  • Cyflwyno’r Gymraeg trwy ganeuon, gemau ac arferion bob dydd 
  • Adeiladu eich hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg gyda phlant 

 

Dechreuwch yn fach. Magwch eich hyder.  

Dechreuwch gyda chamau bach ac adeiladu eich hyder wrth i’r Gymraeg ddod yn rhan naturiol o’ch arfer bob dydd.  

Dysgwch gyda chydweithwyr a helpwch blant i glywed, mwynhau a defnyddio’r Gymraeg bob dydd.  

Ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf?  

Cewch ragor o wybodaeth drwy gysylltu â:  

info@clybiauplantcymru.org