16.10.2026 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Sir Gaerfyrddin 2026–27
Mae cyllid ar gael i leoliadau gofal plant cymwys i wella eu cyfleusterau, prynu offer dan do neu yn yr awyr agored, gwneud gwaith adnewyddu a chryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Derbynnir ceisiadau gan ddarparwyr cymwys sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), yn amodol ar feini prawf y cynllun. Rhaid i ddarparwyr hefyd fodloni’r gofynion sy’n ymwneud â chofrestru, aelodaeth o sefydliad ymbarél a Dewis Cymru.
Mae’r grant hwn yn arbennig o berthnasol i glybiau sy’n awyddus i wella eu hamgylchedd chwarae neu brynu offer newydd.
Gwybodaeth pellach Cynllun Grant Cyfalaf Bach 2026/27 – Carmarthenshire Family Information Service