Plant mewn Angen – Heriwch eich Hun 2026

Mae ‘Herwch Eich Hun 2026’ BBC Plant mewn Angen yn gwahodd pawb i godi arian yn eu ffordd eu hunain — o fwyta cacennau a gwisgo mewn smotiau i gymryd her wedi ei noddi. Eleni, mae’r rhif 26 yn ysbrydoliaeth: dewiswch weithgaredd hoff i’w wneud 26 o weithiau, neu ddyfeisio eich codwr arian unigryw eich hun!  

Beth am wahodd y plant yn eich clwb i awgrymu her y byddent yn ei fwynhau? Gallech drio 26 symudiad dawns neu weithio gyda’ch gilydd i wneud 26 creadigaeth smotiog. Cadwch y cyfrannu’n ddewisol ac yn gynhwysol, fel y gall pawb ymuno, heb bwysau i roi arian.  

Am ragor o ysbrydoliaeth, archwiliwch ‘Helfa Sborion Deuluol Pudsey’, sy’n herio teuluoedd i ddod o hyd i 26 darganfyddiad yn yr awyr agored, neu wneud ‘Her Ddawns Camau Strictly 26’. Ewch i dudalen codi arian BBC Plant mewn Angen am syniadau, adnoddau i’w lawrlwytho a manylion sut i gofrestru. 

https://www.bbcchildreninneed.co.uk/fundraising/individuals/