06.11.2026 |
Wythnos Ymddiriedolwyr – Manteision bod yn ymddiriedolwr mewn sefydliad gofal plant a chymunedol
Gall fod yn hynod o werthfawr yn bersonol ac yn broffesiynol i gefnogi Clwb Gofal Plant All-Ysgol fel ymddiriedolwr.
Gwnewch wahaniaeth cadarnhaol i blant a’u teuluoedd
Fel ymddiriedolwr, rydych chi’n helpu i lunio cyfeiriad strategol y sefydliad ac yn sicrhau ei fod yn darparu gwasanaethau gofal plant o ansawdd da. Gall eich penderfyniadau gael effaith uniongyrchol ar:
- Cyfleoedd chwarae plant
- Lles teuluoedd
- Mynediad at ofal plant fforddiadwy
- Gwasanaethau cymorth cymunedol
- Cyfleoedd cyflogaeth
Fel ymddiriedolwr rydych chi’n darparu syniad cryf o bwrpas a chyfraniad yn eich cymuned leol.
Datblygu sgiliau a phrofiadau newydd
Gall ymddiriedolwyr ennill profiad gwerthfawr mewn amrywiaeth eang o sgiliau, megis:
- Cynllunio strategol
- Arweinyddiaeth a llywodraethiad
- Trefniadau goruchwylio ariannol a chyllidebu
- Rheoli risg
- Datblygu’r ddarpariaeth a’r polisi.
- Cefnogi adnoddau dynol a recriwtio
Hefyd, gweithio o fewn tîm, dysgu gan eraill a chefnogi twf mewn cymunedau lleol.
Mae’r sgiliau hyn yn hawdd eu trosglwyddo ac yn gallu gwella rhagolygon gyrfa unigolion.
Cryfhewch eich Proffil Proffesiynol
Mae gwasanaethu ar fwrdd ymddiriedolwyr yn rhoi cyfle i ddangos:
- Y gallu i arwain
- Ymrwymiad i ddatblygu cymuned
- Sgiliau gwneud-penderfyniadau
- Atebolrwydd ac uniondeb
Mae gan ymddiriedolwyr ystod eang o sgiliau a rolau proffesiynol sydd yn gallu bod yn arbennig o fuddiol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym meysydd:
- Addysg
- Gofal plant
- Llywodraeth leol
- Datblygu cymunedol
- Y sectorau Busnes a Chyllid
Dylanwadwch ar ddyfodol gwasanaethau gofal plant
Mae ymddiriedolwyr yn chwarae rôl allweddol yn cyflenwi Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ledled Cymru. Maent yn:
- Gosod gweledigaeth ac amcanion y sefydliad
- Sicrhau bod y gwasanaethau’n cyfarfod ag anghenion y gymuned
- Cefnogi cynaliadwyedd a thwf
- Hyrwyddo ansawdd a safonau diogelu
Gan roi cyfle i unigolion helpu i lunio dyfodol darpariaethau gofal plant yn yr ardal leol.
Dysgwch am Lywodraethu Elusennau ac Nid-er-Elw
Mae ymddiriedolwyr yn ennill dealltwriaeth o:
- Ddeddf a rheoliadau elusen
- Cyfleoedd cyllido a grantiau
- Fframweithiau llywodraethu
- Gofynion cydymffurfio
- Cyfrifoldebau diogelu
Gall y wybodaeth hon fod yn werthfawr ar gyfer rolau ar fyrddau, neu lywodraethu, yn y dyfodol.
Adeiladu rhwydweithiau proffesiynol
Mae ymddiriedolwyr yn aml yn gweithio ochr yn ochr â:
- Proffesiynolion gofal plant
- Arweinwyr cymunedol
- Cynrychiolwyr awdurdodau lleol
- Proffesiynolion ym myd busnes
- Rhieni a gofalwyr
Gall hyn ehangu cysylltiadau proffesiynol a chymunedol.
Boddhad personol
Mae llawer o ymddiriedolwyr yn cael boddhad mewn gwirfoddoli yn eu cymuned leol ac yn gwerthfawrogi eu bod yn gallu:
- Rhoi yn ôl i’w cymuned
- Defnyddio eu harbenigedd, eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u profiad i helpu eraill
- Gweld canlyniadau cadarnhaol i blant a theuluoedd
- Cyfrannu at achos y maen nhw’n ei fawrbrisio ac yn ofalgar amdano
Cyfle i ddefnyddio arbenigedd presennol
P’un a yw eich cefndir ym maes:
- Cyllid
- Adnoddau dynol
- Marchnata
- Addysg
- Datblygu busnes
- Y Gyfraith
- Iechyd a diogelwch
Gall eich sgiliau ychwanegu gwerth sylweddol i’r sefydliad tra hefyd yn rhoi ichi brofiad mewn lleoliad llywodraethu.
Manteision i gyflogwyr
Mae llawer o gyflogwyr hefyd yn gwerthfawrogi staff sy’n ymddiriedolwyr oherwydd eu bod yn datblygu:
- Sgiliau arwain
- Meddwl strategol
- Gwaith tîm a chydweithio
- Ymwybyddiaeth ariannol
- Galluoedd datrys-problemau
Yn aml bydd y sgiliau hyn yn cael eu cymryd yn ôl i’r gweithle.
Pethau i’w hystyried
Mae bod yn ymddiriedolydd yn dod â bodlondeb, ond hefyd gyfrifoldebau. Mae ymddiriedolwyr yn gyfrifol, ar y cyd, am:
- Sicrhau bod y sefydliad yn cael ei reoli’n dda
- Gweithredu er budd gorau’r elusen
- Sicrhau cynaliadwyedd ariannol
- Cyflawni dyletswyddau cyfreithiol a diogelu
Mae’r rhan fwyaf o rolau ymddiriedolwr yn wirfoddol, ond gall y profiad a’r effaith fod yn sylweddol
I rywun sy’n gweithio ym maes gofal plant neu ddatblygu gofal plant, gall dod yn ymddiriedolwr roi iddynt gyfle unigryw i ddylanwadu ar wasanaethau ar lefel strategol wrth gefnogi plant, teuluoedd a chymunedau y tu hwnt i’ch rôl o-ddydd-i-ddydd.
Mae Wythnos yr Ymddiriedolwyr yn ôl yn 2026 – CGGC
Digwyddiadau a gynlluniwyd ar gyfer wythnos yr Ymddiriedolwyr
Archebwch eich lle yn awr, peidiwch â methu’ch cyfle Wythnos yr Ymddiriedolwyr – Arddangos gwaith ymddiriedolwyr elusennau