13.11.2026 |
Eich Clwb, Eich Llais! – Cyfranogiad Plant
Sut mae plant yn cael dweud eu dweud yn eich clwb?
Mae cyfranogiad plant yn golygu mwy na dim ond gofyn i blant beth yr hoffent ei wneud. Mae’n ymwneud â sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, bod eu syniadau’n cael eu gwerthfawrogi, a bod ganddynt gyfleoedd ystyrlon i ddylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu profiadau.
Mae Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn cydnabod hawl plant i fynegi eu barn ac i’r farn honno gael ei chlywed a’i chymryd o ddifrif.
Her yr Wythnos Hon
Rhowch gynnig ar ffordd newydd o gasglu barn a syniadau plant yn eich clwb!
- Wal Graffiti – Gall plant ysgrifennu, tynnu lluniau neu ddwdlo i fynegi eu meddyliau a’u syniadau.
- Pleidleisio â Dotiau – Pleidleisiwch ar weithgareddau, adnoddau neu welliannau i’r clwb gan ddefnyddio sticeri.
- Capteiniaid y Clwb – Mae plant yn casglu syniadau ac yn eu rhannu â’r grŵp.
- Gorsaf Awgrymiadau – Lle i rannu syniadau, meddyliau neu bryderon yn ddienw.
- Cylch Siarad – Trafodaethau anffurfiol am yr hyn y mae plant yn ei fwynhau a’r hyn yr hoffent ei newid.
- Llais drwy Luniau – Mae plant yn tynnu lluniau o’u hoff fannau ac yn esbonio pam eu bod yn bwysig.
- Bodiau i Fyny, Bodiau i Lawr – Ffordd syml i blant iau rannu eu barn. • Dyluniwch Glwb Eich Breuddwydion – Tynnwch lun, adeiladwch neu crëwch fodel o amgylchedd clwb delfrydol.
Nid yw pob plentyn yn teimlo’n gyfforddus yn rhannu ei farn ar lafar. Mae cynnig gwahanol ffyrdd o gyfathrebu yn helpu i sicrhau bod mwy o blant yn cael cyfle i gael eu clywed. Cofiwch fod dewis peidio â chyfranogi hefyd yn ddewis dilys.
Ddwedoch Chi, Wnaethom Ni!
Peidiwch ag anghofio cwblhau’r cylch adborth. Rhowch wybod i’r plant pa awgrymiadau sydd wedi cael eu rhoi ar waith, pa syniadau a allai gymryd mwy o amser, a pham na fydd rhai yn bosibl.
Pan fydd plant yn gweld y gall eu barn wneud gwahaniaeth, maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u parchu, a’u bod yn rhan o gymuned eu clwb.
Nid gofyn i blant beth maent yn ei feddwl yn unig yw’r her – ond dangos iddynt fod eu lleisiau’n bwysig.