13.11.2026 |
Cystadleuaeth Cerdyn Nadolig Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) 2026
Dyma gyfle i fod yn greadigol a chael eich clwb i gymryd rhan yng nghystadleuaeth AGC i ddylunio cardiau Nadolig.
Gall plant ddylunio unrhyw waith celf ar thema’r Nadolig, gan gynnwys lluniadau, paentiadau, collage, torchau neu grefftau creadigol eraill. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Sganiwch neu tynnwch lun o’r dyluniad a’i anfon i CIW.Comms@gov.wales erbyn dydd Llun, 7 Rhagfyr.
Dylai pob cais gynnwys:
- Enw cyntaf y plentyn
- Ei oedran
- Enw’r clwb
Dyluniadau llwyddiannus
‘Bydd y Prif Arolygydd, Gillian Baranski, yn dewis y dyluniadau llwyddiannus yn bersonol. Byddwn yn cysylltu â darparwyr gofal y ceisiadau llwyddiannus yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun, 14 Rhagfyr.’