Cyfle busnes newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (MTCBC) yn gwahodd dyfynbrisiau gan sefydliadau gofal plant profiadol i ddarparu gofal plant yn ardal y Gurnos ym Merthyr Tudful, i ddechrau cyn gynted â phosibl. Y cynnig yw i sefydliad ymgymryd â rheoli a darparu gwasanaethau gofal plant ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar mewn cyfleuster cyn-ysgol newydd sbon, sydd wedi’i leoli ar safle Ysgol Gynradd Gymunedol newydd Goetre, Goitre Lane, y Gurnos, Merthyr Tudful CF47 9BU. Mae’r ysgol newydd wedi’i lleoli ar safle isaf Ysgol Uwchradd Penydre.

Dyddiad cau 27 Tachwedd 2026 

Dylid cyfeirio pob ymholiad drwy GwerthwchiGymru