18/11/2026 |
Dirprwy Reolwr Meithrinfa – Tŷ Enfys, Abertawe
Dyddiad cau: 27/11/2026
Oriau: 35 awr yr wythnos, dydd Llun – dydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol a gwyliau’r ysgol.
Cyflog: £13.50 yr awr
Cymwysterau / profiad gofynnol:
Rhaid meddu ar gymhwyster Lefel 3 cydnabyddedig mewn Gofal Plant/CCPLD neu gymhwyster cyfatebol, gyda phrofiad blaenorol o weithio mewn meithrinfa, yn ddelfrydol mewn rôl uwch. Mae sgiliau arwain cryf a gwybodaeth am ddiogelu, datblygiad plant a rheoliadau gofal plant yn hanfodol.
Parodrwydd i weithio tuag at gymhwyster Lefel 5.
Disgrifiad o’r Dyletswyddau:
Cefnogi Rheolwr y Feithrinfa i redeg y lleoliad o ddydd i ddydd, arwain a chymell staff, cynnal safonau uchel o ofal a diogelu, a sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau gofal plant. Cymryd cyfrifoldeb am arwain a goruchwylio’r ddarpariaeth Dechrau’n Deg, gan gefnogi datblygiad plant, monitro datblygiad ac adeiladu partneriaethau cryf â theuluoedd a gweithwyr proffesiynol.
Sut i ymgeisio:
Anfonwch e-bost at Tyenfysnursery@gmail.com
Lleoliad y swydd: Tŷ Enfys Nursery, Llansamlet, SA70AR
Ymwadiad
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn hysbysebu swyddi gwag ar ran Aelodau. Dylai darpar ymgeiswyr ddefnyddio’r manylion cyswllt a restrir yn yr hysbyseb i gael rhagor o wybodaeth, a dylent ddelio’n uniongyrchol â’r person sy’n gosod yr hysbyseb, ac nid Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn derbyn cyfrifoldeb am ansawdd na chynnwys yr hysbyseb, nac am arferion cyflogi’r Aelod sy’n gosod yr hysbyseb. Nid yw Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn cyflogi staff ar ran unrhyw sefydliad arall.