Cyhoeddi Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae wedi’i diweddaru

Mae Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) wedi cyhoeddi Rhestr o Gymwysterau Gofynnol i weithio yn y Sector Gwaith Chwarae wedi’i diweddaru.

Mae’r rhestr yn darparu canllaw ar gyfer y cymwysterau galwedigaethol gofynnol ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant dan 12 oed yn y sector gwaith chwarae. Mae hefyd yn cynnwys datganiad cymhwysedd galwedigaethol.

Mae’r canllaw yma’n cael ei anelu at gyflogwyr, ymarferwyr, darparwyr hyfforddiant a chyrff rheoleiddiol.

Lawrlwytho’r rhestr 2026