Dathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg – 7 Rhagfyr

Ar 7 Rhagfyr, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn dathlu Diwrnod Hawliau’r Gymraeg – sef cyfle i godi ymwybyddiaeth o’n hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg a dathlu’r gwahaniaeth y gall gwasanaethau Cymraeg ei wneud i fywydau bob dydd pobl.

Mae hawliau’r Gymraeg wedi helpu i drawsnewid profiadau siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, gan ei gwneud hi’n haws defnyddio’r Gymraeg wrth gyrchu gwasanaethau cyhoeddus ac yn y gweithle. Mae cynlluniau hefyd i ymestyn safonau’r Gymraeg i fwy o sectorau, gan helpu hyd yn oed mwy o bobl i ddewis defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

Ledled Cymru, bydd sefydliadau’n ymuno â’r dathliadau ac yn tynnu sylw at y gwasanaethau Cymraeg maent yn eu darparu. Bydd y Comisiynydd hefyd yn rhannu fideos sy’n cynnwys aelodau o’r cyhoedd a staff yn siarad am eu profiadau ac yn esbonio pam mae gallu cyfathrebu yn Gymraeg yn bwysig.

I rai pobl, gall derbyn gwasanaeth yn y Gymraeg fod yn arbennig o bwysig. Mae Shumita Palit, nyrs yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth sydd wedi dysgu Cymraeg, yn defnyddio’r iaith gyda chleifion bob dydd. Mae’n esbonio y gall siarad Cymraeg helpu cleifion, yn enwedig y rhai sydd wedi cael strôc, i deimlo’n fwy cyfforddus a chefnogi asesiadau cywir o’u cyflwr.

Mae Lois Russell-Fone, Cofrestrydd gyda Chyngor Wrecsam, hefyd yn gweld drosti ei hun faint mae gwasanaethau Cymraeg yn ei olygu i bobl. O gofrestru genedigaethau i briodasau a marwolaethau, mae’n helpu pobl i nodi rhai o adegau pwysicaf bywyd yn yr iaith o’u dewis.

Gall dysgwyr Cymraeg gymryd rhan hefyd. Bydd sesiwn holi ac ateb arbennig yn cael ei chynnal am 7pm ar 7 Rhagfyr, wedi’i threfnu mewn partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ynghyd ag adnoddau dysgu penodol i helpu pobl i ddarganfod mwy am eu hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg.

Ymunwch â’r dathliadau ar 7 Rhagfyr a helpwch i ledaenu’r neges am yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg.

Dilynwch a chefnogwch yr ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #MaeGeniHawl.

Diwrnod Hawliau’r Gymraeg: dathlu’r ‘newid byd’ ym mhrofiadau siaradwyr Cymraeg