Chwilio
Eng | Cym
Dangosfyrddau
Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ydym ni, sef y corff sy’n darparu ar gyfer Gofal Plant Allysgol yng Nghymru.
Mae ein gweledigaeth yn gryf, yn falch ac yn ddiymwad: ‘Cymru lle mae plant yn chwarae a chymunedau’n ffynnu.’

 

Cenhadaeth

Bod yn llais Clybiau Gofal plant Allysgol yng Nghymru, yn cefnogi hawl plant i chwarae a gofal plant sy’n gynaliadwy, yn fforddiadwy ac sy’n bodloni anghenion plant, eu teuluoedd a’u cymunedau.

Trwy ein harbenigedd a’n gwybodaeth ddiysgog o’r sector Gofal Plant Allysgol, rhown i Weithwyr Chwarae y modd i godi safonau Gofal Plant Allysgol.

Ein Hanes

Gwneud gwahaniaeth i ofal plant ers 2001

Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yw’r gyfundrefn genedlaethol ar gyfer Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru. Rydym wedi bod yn hyrwyddo, datblygu a chefnogi’r sector Gofal Plant Allysgol ers 2001 er mwyn datblygu gweithlu proffesiynol sy’n croesawu ac yn cefnogi chwarae wedi ei hunan-gyfarwyddo gan blant.

Dilynwch ni

Byddwch â’r diweddaraf o’r cyfryngau cymdeithasol

Am wybod mwy am Clybiau Plant Kids’ Clubs? Dilynwch ;ni ar ein sianelau cymdeithasol i fod â’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf

Cysylltwch a Ni

Angen cymorth? Rydyn ni yma – estynnwch allan!

Os ydych chi’n glwb sy’n chwilio am arweiniad; gweithiwr chwarae sydd eisiau dechrau eich gyrfa; neu os oes ddiddordeb yn y sector gennych ac eisiau gwybod mwy: gadewch i ni weithio gyda’n gilydd. Fe roddwn ni’r offer a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i lwyddo.

Newyddion

Y Newyddion diweddaraf gan Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol

Gweld pob post

20.11.2025

2il Argraffiad: Canllaw Creu Diwylliant GwrthHiliol mewn Lleoliadau – pecyn cymorth ymarferol i’r rhai sy’n gweithio ym maes Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Pecyn Cymorth wedi’i Ddiweddaru yn Dilyn Adolygiad gan Randdeiliaid  Yn dilyn adborth helaeth gan randdeiliaid a lleoliadau sy’n cymryd rhan, mae adolygiad o’r pecyn cymorth wedi arwain at fwy nag 20 o ddiweddariadau yn ei ail argraffiad.   Mae gwelliannau ychwanegol eisoes yn cael eu datblygu, gyda chynlluniau i’r pecyn cymorth gael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn ymatebol i anghenion y sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a gwaith chwarae.    Lawrlwythwch eich copi yma:  Gofal Plant, Chwarae, a’r Blynyddoedd Cynnar  

Darllen mwy

20.11.2025

Adnoddau Pecyn Seiberddiogelwch

Seiberddiogelwch mewn Gofal Plant: Ydych chi’n wirioneddol yn ddiogel? Gyda bygythiadau seiberddiogelwch yn codi yn y fyd-eang ac yn lleol, mae’n bwysicach byth i Glybiau Gofal Plant All-Ysgol […]

Darllen mwy

14.11.2025

Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau […]

Darllen mwy

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!