Chwilio
| Cym
Dangosfyrddau

Ni yw llais Clybiau Gofal Plant Allysgol yng Nghymru

  • Mae cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a chefnogaeth arianwyr eraill yn ein galluogi i wneud yn sicr ein bod nid yn unig yn rhoi arweiniad, ond yn rhoi llais i’r sector Gofal Plant Allysgol, gan ddefnyddio’r wybodaeth a gawn gan staff sy’n gweithredu ar lefel leol.
  • Mae ein bwrdd o ymddiriedolwyr, wedi eu hethol gan ein haelodau, ac yn sicrhau bod budd gorau clybiau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu hystyried wrth i ni fel rheolwyr ddod i benderfyniadau. Croesawn gynrychiolwyr newydd ac amrywiol o’r sector, ac rydym hefyd yn awyddus i gael ymddiriedolwyr cyfetholedig a all ddod â sgiliau penodol, megis rheolaeth ariannol neu farchnata, gyda nhw.

Ers ein sefydlu yn 2001, rydym wedi mireinio ein harbenigedd sector-benodol, ac felly rydym yn y lle gorau i helpu i lywio Clybiau Gofal Plant Allysgol a chymunedau ledled Cymru i gefnogi anghenion plant, eu teuluoedd ac economi Cymru.

Nodau Strategol ​

Llywodraethiad

Cyfundrefnau corfforedig â llywodraethiad cryf, plentyn-ganolog, sy’n darparu chwarae a gofal cynaliadwy, o ansawdd i blant, teuluoedd a chymunedau

Cynaliadwyedd​

Lefel uchel o ymgysylliad ac incwm i gefnogi ein tyfiant; a sector cynaliadwy sy’n fforddiadwy, yn cael ei fawrbrisio, un sy’n alluog i gynorthwyo plant, teuluoedd a chymunedau i ffynnu.

Hyfforddiant​​

Gweithlu cymwysedig, proffesiynol sy’n cefnogi chwarae wedi ei hunan-gyfeirio, a bod hyn yn cael ei ddeall, ei hwyluso a’i hyrwyddo ymysg plant a phobl ifanc

Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru

Ymwybyddiaeth gynyddol o dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol Cymru, sy’n diogelu'r iaith, yr amgylchedd a'r dreftadaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol mewn diwylliant mwy cydnerth a chyfartal. 

Follow Us

Keep up to date on social

Want to find out more about Clybiau Plant Kids’ Clubs? Follow us on our social channels to keep up to date with the latest news and events

News

Latest News From Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs

Sign up to receive our quarterly newsletter, Y Bont by email!

Gweld pob post

20.11.2025

2il Argraffiad: Canllaw Creu Diwylliant GwrthHiliol mewn Lleoliadau – pecyn cymorth ymarferol i’r rhai sy’n gweithio ym maes Gofal Plant, Chwarae a’r Blynyddoedd Cynnar yng Nghymru

Pecyn Cymorth wedi’i Ddiweddaru yn Dilyn Adolygiad gan Randdeiliaid  Yn dilyn adborth helaeth gan randdeiliaid a lleoliadau sy’n cymryd rhan, mae adolygiad o’r pecyn cymorth wedi arwain at fwy nag 20 o ddiweddariadau yn ei ail argraffiad.   Mae gwelliannau ychwanegol eisoes yn cael eu datblygu, gyda chynlluniau i’r pecyn cymorth gael ei adolygu’n flynyddol i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn ymatebol i anghenion y sector gofal plant, blynyddoedd cynnar a gwaith chwarae.    Lawrlwythwch eich copi yma:  Gofal Plant, Chwarae, a’r Blynyddoedd Cynnar  

Darllen mwy

20.11.2025

Adnoddau Pecyn Seiberddiogelwch

Seiberddiogelwch mewn Gofal Plant: Ydych chi’n wirioneddol yn ddiogel? Gyda bygythiadau seiberddiogelwch yn codi yn y fyd-eang ac yn lleol, mae’n bwysicach byth i Glybiau Gofal Plant All-Ysgol […]

Darllen mwy

14.11.2025

Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau […]

Darllen mwy

Nodwch yma i dderbyn crynodeb wythnosol!