Darperir hyfforddiant yn ddi-dâl fel arfer i’r clybiau sydd wedi ymaelodi â ni. Mae’n bosibl y bydd cyfyngiadau mewn achosion lle darperir yr ariannu gan awdurdod lleol neu arianwyr arbennig a fydd yn caniatáu aelodau o ardal benodol yn unig i fod yn bresennol. Gwelwch bob cwrs yn ein rhaglen i sicrhau eich bod yn gymwys, neu ffoniwch eich swyddfa leol.
Mewn rhai achosion gall rhai nad ydynt yn aelodau yn ogystal archebu lle ar ein cyrsiau hyfforddi. Rhaid i rai nad ydynt yn aelodau dalu ffi archebu (na ellir ei had-dalu).
Rhaid talu pob ffi archebu lle/ffi gwrs o fewn 3 diwrnod gwaith. Dylech dderbyn cadarnhad o’ch lle o fewn 5 niwrnod wedi talu. Os na fyddwch yn derbyn cadarnhad, cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol
Canslo:
Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw sesiynau sydd wedi eu harchebu, RHAID i chi roi rhybudd o 48 awr o leiaf. Bydd methiant i fod yn bresennol mewn sesiwn, heb fod wedi rhoi rhybudd digonol, yn golygu codi tâl arnoch am ddiffyg presenoldeb.
Rydym yn Is-gontractiwr i Chwmni Hyfforddiant Cambrian i gylfenwi Prentisiaethau mewn Gwaith Chwarae.
Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.