10.01.2025 |
Yr Hyfforddiant sydd i ddod gan dîm hyfforddi Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
MAE’R AMSER YN PRINHAU!
Mae amser yn mynd yn brin i hawlio eich lle ar Ddyfarniad Lefel 3 mewn Pontio i Waith Chwarae, sydd wedi ei ariannu’n llawn.
Os oes gennych chi Lefel 3 mewn Gofal Plant, Gwaith Ieuenctid, Ysgol Goedwig neu Addysg ar hyn o bryd, ac yn gweithio yng Nghymru, gallwch gael mynediad at gymhwyster a fydd wedi ei ariannu’n llawn.
- Wedi’i ariannu’n llawn o dan y Rhaglen Hyfforddiant a Chymorth
- Wedi ei gyflwyno dros 9 sesiwn ar-lein hwyliog a deniadol
- Yn cymhwyso staff i weithio mewn unrhyw leoliad Gwaith Chwarae
- Ystod eang o gefnogaeth ac adnoddau