10.01.2025 |
Polisi’r Wythnos: Polisi Gweithwyr Ifanc ac Adnodd Arweiniol
Recriwtio staff ifanc i’r Sector Gofal Plant All-Ysgol?
Mae’n wych gweld cymaint o staff Gwaith Chwarae dan hyfforddiant ifanc yn cael mynediad i’n cyrsiau Gwaith Chwarae. Peidiwch ag anghofio y gallwch recriwtio staff trwy ein gwefan ac mae ein platfformau cyfrwng-cymdeithasol yn rhannu hyn ymhell ac agos i chi.
Wrth recriwtio staff mae’n bwysig cofio hawliau cyflogaeth gweithwyr ifanc. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hawliau cyflogaeth drwy ACAS. Fodd bynnag i gefnogi’r Sector Gofal Plant All-Ysgol rydym wedi datblygu’r templed polisi ac arweiniad ar Weithwyr Ifanc i chi ei addasu i’ch Clwb unigol. Sicrhewch fod gennych bolisi yn ei le i’ch diogelu chi, eich clwb a’ch gweithiwr.
Fe welwch ymysg ein hadnoddau Camu Allan
https://www.clybiauplantcymru.org/cy/resources/stepping-out/