17.01.2025 |
Mynegiant o ddiddordeb yn Ne Ddwyrain Cymru
Ydych chi eisiau ehangu eich busnes gofal plant?
Mae hwn yn gyfle gwych i ddarparwyr gofal plant presennol sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).
Gallwch fynegi eich diddordeb yn yr Ysgol hon ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r ysgol yn cynnig cyfleuster dros dro ar gyfer gofal plant, sy’n cynnwys ystafell gofal plant wedi’i sefydlu i ddarparu cylch chwarae, gwasanaeth cofleidiol, clwb all-ysgol a chlwb gwyliau.
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle busnes hwn, edrychwch ar Fynegiant o Ddiddordeb Ysgol Gynradd Tiryberth yn y ddolen.