17.01.2025 |
Adnodd yr Wythnos Camu Allan : Rhagolwg Llif Arian
Yn hytrach na pholisi, yr adnodd yr wythnos Camu Allan hwn yw ein Rhagolwg Llif Arian.
Mae hyn yn amser perffaith i drefnu eich arian, gyda dechrau’r Flwyddyn Newydd a diwedd y calendr ariannol ar y gorwel.
Mae’r daenlen Excel hon yn eich galluogi i fewnbynnu holl incwm a gwariant y clwb, gan gynnwys cyflogau staff a thâl gwyliau. Byddwch yn gallu gweld meysydd lle y gellir gwneud addasiadau i wella eich sefyllfa ariannol.
Mae’n adnodd defnyddiol i leoliadau sydd eisiau rheoli eu cyfrifon, yn ystyried ehangu, newid elfennau o’ch gwasanaeth, neu hyd yn oed chwarae o gwmpas!
Cysylltwch â’ch SDB lleol os hoffech gael cymorth gyda hyn – rydym yn deall bod taenlenni weithiau’n gallu teimlo’n rhywbeth anodd ei rheoli!