31.01.2025 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Welsh Language Music Day/Dydd Miwsig Cymru 07/02/2025
Mae hwn yn ddigwyddiad blynyddol sy’n amlygu’r gerddoriaeth gyfoethog ac amrywiol sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg. Mae’n annog pobl i ddarganfod, mwynhau, a chefnogi cerddoriaeth Gymraeg ar draws sawl genre gwahanol, gan gynnwys pop, roc, gwerin, hip-hop, a mwy. Mae’r diwrnod hwn yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol unigryw Cymru drwy ei mynegiant cerddorol.
Ymunwch â’r sgwrs gan ddefnyddio’r hashnod #dyddmiwsigcymru a #Miwsig.
06 Chwefror
Diwrnod Rhyngrwyd Mwy Diogel
#DiwrnodRhyngrwydMwyDiogel a #DRMD2025
Dros y blynyddoedd, mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel wedi datblygu’n ddigwyddiad allweddol yn y calendr diogelwch ar-lein. Wedi’i ddechrau fel menter o brosiect SafeBorders yr UE yn 2004, a’i fabwysiadu gan y rhwydwaith Insafe fel un o’i gamau gweithredu cyntaf yn 2005, mae’r diwrnod hwn wedi tyfu y tu hwnt i’w barth daearyddol traddodiadol, ac mae bellach yn cael ei ddathlu mewn mwy na 180 o wledydd a thiriogaethau ledled y byd.
O seiberfwlio i rwydweithio cymdeithasol a hunaniaeth ddigidol, mae Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel bob blwyddyn yn ceisio codi ymwybyddiaeth am faterion ar-lein sy’n dod i’r amlwg a phryderon presennol.
Mae’r diwrnod hefyd yn cael ei ddathlu y tu hwnt i Ewrop. Yn 2009, cyflwynwyd cysyniad y Pwyllgorau Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel i gryfhau’r cysylltiadau â gwledydd y tu hwnt i’r rhwydwaith a buddsoddi mewn hyrwyddiad cysoni o’r ymgyrch ledled y byd.