Gwaith Chwarae fel Gyrfa

Ennill wrth Ddysgu!! Beth am weithio a chwblhau eich cymhwyster gwaith chwarae.

Mae Clybiau Plant Cymru Kids Clubs brentisiaethau gwaith chwarae wedi’u hariannu’n llawn, mewn prentisiaethau lefel 2, 3 a 5.

Rhowch wybod i ni beth yw eich anghenion iaith, gan y gallwn gynnig y cymhwyster hwn yn Gymraeg neu Saesneg, eich dewis chi!!

Bydd ein swyddogion hyfforddi deinamig yn darparu’r canlynol i chi:

  • Sesiynau hyfforddi wythnosol, ymweliadau misol wyneb yn wyneb ar gyfer lefel 2 a 3.
  • Sesiynau hyfforddi misol, ymweliadau misol wyneb yn wyneb neu ar-lein ar gyfer lefel 5.
  • Adnoddau o safon i gefnogi eich hyfforddiant drwy gydol y cwrs
  • Swyddogion Hyfforddi wrth law i arwain a chefnogi eich taith.

Ymunwch heddiw a datblygwch  eich gyrfa!!

I ddod o hyd i’ch cwrs addas cliciwch ar y ddolen isod i’n cyfeiriadur hyfforddi:

Dolen i’r cyfeiriadur hyfforddi

Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r cyfle cyffrous hwn â chi. Cyflwynwch eich Ffurflen Mynegi Diddordeb yn awr a lledaenwch y gair i’rh holl rwydweithiau!

Dolen at y ffurflen Mynegi Diddordeb