07.02.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Cronfa Bagiau Cymorth Tesco
Nod y cyllid hwn yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol – oherwydd lle mae ein cymunedau’n ffynnu, mae ein busnes a’n cydweithwyr yn ffynnu hefyd. Mae Tesco Stronger Starts yn cael ei reoli gan Groundwork sy’n gweithio gyda Greenspace Scotland i gefnogi ymgeiswyr yn yr Alban.
Sut mae Tesco Stronger Starts yn gweithio?
Mae Tesco Stronger Starts yn agored i elusennau a sefydliadau cymunedol wneud cais am grant o hyd at £1,500. Bob tri mis, mae tri achos da lleol yn cael eu dewis i fod yn y bleidlais cwsmeriaid tocyn-glas yn siopau Tesco ledled y DU.
Mae ceisiadau’n agored i bob achos da lleol, ond rydym ar hyn o bryd yn blaenoriaethu helpu prosiectau sy’n cefnogi diogelwch bwyd plant a’u hiechyd, ac achosion da a enwebir gan siopau lleol.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn a chroesewir syniadau eraill am brosiectau hefyd.
Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- Clybiau Brecwast Ysgolion
- Clybiau Gwyliau
- Ardaloedd chwarae
- Banciau bwyd
- Gwasanaethau cwnsela a chefnogaeth i blant
- Cyfarpar neu wasanaethau anstatudol i feithrinfeydd neu ysgolion e.e. ysgolion coedwig, llyfrau llyfrgell
- Cyfarpar i grwpiau Brownis, Geids neu Sgowtiaid, e.e. offer gwersylla, bathodynnau
- Gwasanaethau neu gyfarpar i gefnogi iechyd plant a phobl ifanc
- Cyfarpar/citiau i dimau chwaraeon ieuenctid