
21.02.2025 |
Polisi’r wythnos: Yr Iaith Gymraeg
A nifer ohonoch yn dathlu’r cyfri i lawr i Ddydd Gŵyl Dewi y penwythnos hwn, ydych chi wedi gwirio a yw eich polisïau yn cynnwys un ar yr iaith Gymraeg?
Mae’r polisi hwn yn amlinellu sut mae eich clwb yn gweithio tuag at nod Cymru o gael 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Anogir darparwyr gofal plant sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i gynnig y ‘Cynnig Gweithiol’. Mae hyn yn golygu eich bod yn cynnig gwasanaeth Cymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Mae’r Polisi Iaith Gymraeg hwn hefyd yn dangos sut yr ydych i’w weithredu.
Os hoffech fwy o help ar ddarparu’r Cynnig Gweithiol a/neu sut i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eich lleoliad, cwblhewch Fynegiant o Ddiddordeb Yma