
25.02.2025 |
Dowch i gyfarfod â’r siaradwyr gwadd yng Nghynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol 2025
Yn y Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol, gyda chyffro y cyflwynwn y siaradwyr gwadd canlynol.
Sharon Eastlake, Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Gofal Plant a Chwarae, Is-Adran Y Blynyddoedd Cynnar, Gofal Plant a Chwarae, Llywodraeth Cymru.
Dechreuodd Sharon Eastlake yn ei swydd fel Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Gofal Plant a Chwarae ym mis Hydref 2022. Mae’n gyfrifol am arwain ar ddatblygu polisi sy’n ymwneud â gofal plant a reoleiddir, chwarae, a chyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar.
Mae hi wedi gweithio yn Llywodraeth Cymru ers 2017, a chyn ymuno ag Is-adran Gofal Plant a Chwarae’r Blynyddoedd Cynnar bu’n gweithio am 5 mlynedd yn Arolygiaeth Gofal Cymru. Yn ystod ei chyfnod yn Arolygiaeth Gofal Cymru bu Sharon yn arwain ar arolygiadau awdurdodau lleol ac ar wella a gorfodi darpariaethau wedi eu rheoleiddio. Cyn hyn mae gan Sharon 17 mlynedd o brofiad fel Gweithiwr Cymdeithasol mewn gwasanaethau plant awdurdodau lleol, sydd wedi adeiladu sylfaen gref ar gyfer ei rôl bresennol. Mae Sharon yn mwynhau hyfforddi a mentora pobl i fod y gorau y gallant fod ac mae’n fentor Cymraeg i ddysgwyr o fewn y sefydliad. Ers Rhagfyr 2023 mae Sharon hefyd wedi bod yn gwirfoddoli fel Ynad Heddwch.
Pip Dimmock – Prif Swyddog Gweithredol, Interplay
Mae Pip Dimmock – Prif Swyddog Gweithredol Interplay, wedi gweithio yn y sector anabledd ers dros 25 mlynedd. Gan ddechrau yn y Gwasanaethau Oedolion mae hi wedi gweithio mewn lleoliadau seibiant, canolfannau dydd a gweithdai, yn ogystal â threulio 6 blynedd fel Swyddog Cyfranogiad ar gyfer Gwasanaethau Oedolion yn Abertawe. Yn 2011/12 nododd y niferoedd cynyddol o bobl ifanc niwroamrywiol a oedd yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau oedolion nad oedd yn bodloni eu hanghenion. Ysgogodd hyn hi i newid ffocws i geisio dod o hyd i lwybr gwell i blant ac yn 2013 ymunodd ag Interplay, elusen chwarae sy’n canolbwyntio ar ddarparu chwarae i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion cymorth iechyd meddwl., yn 2013.
Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Pip wedi cael profiad uniongyrchol o weithio gyda phlant â phob lefel o allu ac anghenion cymorth, ac mae wedi gweld sut y gall cyfyngu mynediad i chwarae a chymryd risgiau i blant, yn enwedig y rhai ag anghenion ychwanegol, eu hatal rhag dysgu’r sgiliau llawn sydd eu hangen arnynt.
Mae Pip wedi ymgymryd â Chymhwyster Gwaith Chwarae Lefel 2, 3 a 5, yn ogystal â Lefel 5 mewn Iechyd a Chymdeithasol: Plant a Phobl Ifanc i’w helpu i ddeall ymhellach y gydberthynas rhwng chwarae a datblygiad i blant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.