Beth sydd ei angen i fod yn weithiwr chwarae?

Gellir disgrifio gwaith chwarae fel y grefft o weithio gyda phlant wrth iddyn nhw chwarae. Mae’n alwedigaeth gydnabyddedig gyda set o safonau proffesiynol, hyfforddiant, cymwysterau a gyrfaoedd. Deall sut i gefnogi chwarae plant yw’r dasg bwysicaf i weithiwr chwarae ac mae angen set o rinweddau penodol arnynt, gan gynnwys y gred bod gan blant yr hawl i chwarae. Mae chwarae’n hynod fuddiol, gan helpu plant i herio eu hunain, cadw’n heini a gwneud synnwyr o bethau anodd. Yn bennaf oll, mae chwarae’n hwyl! Os ydych yn ystyried gyrfa mewn gwaith chwarae, neu’n awyddus i ddarganfod mwy, dysgwch beth mae’n ei olygu i fod yn weithiwr chwarae yn y fideo byr hwn gan Chwarae Cymru.