Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol

“Mae cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol wrth galon creu bywydau iachach a hapusach, a chymdeithas ffyniannus. Dyna pam y mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau rhyfeddol o dan arweiniad y gymuned.”

Ardal: Cymru

Yn addas i Sefydliadau Gwirfoddol neu Gymunedol

Maint yr Ariannu: £300 – £20,000

Terfyn amser i ymgeiswyr: Parhaus

https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/national-lottery-awards-for-all-wales