
10.03.2025 |
Cynllun Seiberddiogelwch: Beth yn union yw hwn? A 5 ffordd y gallwch chi drwsio eich cynllun seiberddiogelwch gan PureCyber
Cwmni seiberddiogelwch Cymreig yw PureCyber, maent yn cynnig datrysiadau cyflawn seiberddiogelwch a ddarperir ar y cyd gan eu tîm yng Nghaerdydd. Gan gynnig diogelwch amddiffynnol, gwasanaethau diogelwch sarhaus, megis profion treiddiad, a chymorth llywodraethu a chydymffurfio, gall PureCyber ddarparu gwasanaeth seiberddiogelwch gwirioneddol gynhwysfawr i unrhyw sefydliad.
Dysgwch fwy am Seiberddiogelwch
Mae ‘Posture’ (Cynllunio) yn derm pwysig yn y byd seiberddiogelech na ddylech ei diystyru. Mae’r term ‘cynllun seiberddiogelwch’ yn cyfeirio at statws diogelwch cyffredinol rhwydwaith a systemau gwybodaeth y sefydliad. Meddyliwch amdano fel system imiwnedd yn eich sefydliad – sy’n barod i amddiffyn eich sefydliad yn erbyn seiberymosodiadau potensial a sicrhau bod popeth yn aros iach ac yn hwylus.
Yn sylfaenol, mae’n ymwneud ag amddiffynfeydd cadarn, arferion rheoli risg effeithiol, a’r gallu i ymateb yn gyflym i ddigwyddiad seibr ac adfer yn llwyddiannus. Mae deall eich cynllun seiberddiogelwch a sut i’w cryfhau, yn allweddol ar gyfer diogelu eich asedau, ennill ymddiriedaeth cwsmeriaid, diogelu rhag colli arian, a sicrhau enw da eich cwmni.
Ond beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd a sut ydych chi’n mesur y llwyddiant?
Mae cynllun seiberddiogelwch y cwmni yn mesur cyflawn ei seilwaith rhwydwaith a’i seibr-wydnwch, yn ogystal â’ch galled i wrthsefyll seiberymosodiadau a chynnal gweithrediadau yn wyneb bygythiadau seiber. Mae’n edrych ar yr holl elfennau sy’n cyfrannu at seiberddiogelwch, gan gynnwys amddiffynfeydd technegol, cynlluniau ymateb, polisïau a phrosesau, ac ymwybyddiaeth gweithwyr. Yn y bôn, mae’n rhoi cipolwg sy’n dangos pa mor barod yw eich sefydliad i ymdrin â risgiau seiber.
5 cam er mwyn drwsio cynllun seiberddiogelwch eich cwmni:
1. Cynnal Asesiadau Diogelwch Rheolaidd
I ddechrau, mae’n bwysig gwybod lle rydych yn sefyll. Heb gynnal archwiliad rheolaidd, nid yw’n bosibl gwybod pa feysydd sydd angen triniaeth. Gallai gwerthuso eich seiberddiogelwch gynnwys asesiadau perygl, profion treiddiad, neu archwiliadau seiberddiogelwch cynhwysfawr.
Gan adnabod mannau gwan, gallwch flaenoriaethu meysydd sydd angen sylw ar unwaith a gwella eich gwytnwch diogelwch cyffredinol. Po fwyaf aml y cynhelir, y gorau bydd eich siawns o gynnal cynllun seiberddiogelwch.
2. Gweithredu Cynllun Rheoli Seiberddiogelwch
Mae cynllun rheoli seiberddiogelwch yn hanfodol ar gyfer cynnal amddiffyniad cryf yn erbyn bygythiadau cynyddol – heb arweiniad ac addasiadau cyson, mae’n hawdd i bethau mynd o’ch chwith.
Mae cynllun rheoli seiberddiogelwch yn cynnwys monitor eich amgylchedd diogelwch, diweddaru polisïau, sicrhau cydymffurfiaeth â safonau diweddaraf y diwydiant, a gweithredu rheolaethau mynediad cryf.
Yn y bôn, mae’n rhaid i chi integreiddio rheolaeth eich cynllun seiberddiogelwch i mewn i’ch sefydliad er mwyn rheoli’r cynllun yn effeithiol a gofalu ei fod yn ddigon cadarn i wrthsefyll peryglon potensial.
3. Cryfhau Cydnerthedd Seiber Drwy Hyfforddiant Gweithiwr
Un o’r cysylltiadau gwannaf mwyaf cyffredinol mewn cadwyn seiberddiogelwch bob yw gwall dynol, ac mae ymosodiadau seiber yn aml yn canolbwyntio ar we-rwydo ac ymosodiadau peirianneg gymdeithasol eraill am yr union reswm hwn. Mae hyfforddiant seiberddiogelwch ar gyfer gweithwyr yn hanfodol, er mwyn adeiladu seiberddiogelwch cryf a chynnal gwytnwch.
Mae gweithlu gwybodus yn rhan hanfodol o gynnal cynllun seiber cryf a gall droi atebolrwydd posibl yn eich llinell amddiffyn gyntaf – gan leihau risg ac effaith ymosodiad seiber yn sylweddol.
4. Mabwysiadu Arddull Dim (Sero) Ymddiriedolaeth
Mae model Sero Ymddiriedolaeth yn gweithredu ar yr egwyddor o “byth ag ymddiried, a gwiriwch bob amser.” Gall bygythiadau ddod o’r tu mewn neu’r tu allan i’ch rhwydwaith, felly mae dilysu pob cais defnyddiwr a dyfais yn cynnig y cyfle i gyfyngu peryglon gan bartïon maleisus.
Drwy segmentu’ch rhwydwaith, monitro gweithgaredd yn barhaus, a gwirio’r holl ddefnyddwyr a dyfeisiau, mae Sero Ymddiriedolaeth yn lleihau’r effaith os bydd toriad yn digwydd.
5. Diweddaru Systemau a Meddalwedd
Dywediad seiberddiogelwch arall sydd wedi’i brofi’n wir: cadwch eich meddalwedd a’ch systemau’n gyfredol bob amser. Mae meddalwedd hen, yn aml yn llawn gwendidau sy heb gael eu hatel ac mae’n cael i’w defnyddio fel prif dargedau i ymosodwyr seibr sy’n ceisio ymelwa nhw.
Mae diweddaru eich meddalwedd yn cau’r bylchau hwn, gan ei gwneud hi’n llawer anoddach i ymosodwyr ddod o hyd i ffordd i mewn. Mae awtomeiddio’r broses hon gyda datrysiadau rheoli a pholisïau diweddaru gorfodol yn sicrhau nad oes dim yn cael ei anwybyddu, gan gadw’ch amddiffynfeydd yn gryf yn gyffredinol.
Cynllun Seiberddiogelwch: Y llinell isaf…
Nid tasg un tro yw gwella’ch cynllun seiberddiogelwch yn eich sefydliad ond mae’n broses gyson ac ymrwymiad parhaus. Drwy gynnal asesiadau diogelwch rheolaidd, a dilyn y pwyntiau eraill a nodwyd uchod, ni fyddwch yn adeiladu wal i gadw partïon maleisus allan; rydych yn creu system amddiffyn gydnerth ac addasol mewn byd lle mae bygythiadau seiber a throseddau digidol yn datblygu’n gyson.
Ydych angen mwy o gyngor arbenigol ar sut i atgyfnerthu eich cynllun seiberddiogelwch? Cysylltwch â’r tîm yn PureCyber.
Wefan: www.purecyber.com
E-bost: info@purecyber.com
Ffôn: 0800 368 9397
Linkedin: PureCyber Limited
Instagram: @purecyberltd