Rhannau Rhydd yn y Gwanwyn

Mae damcaniaeth Rhannau Rhydd (1971) gan Simon Nicholson yn cydnabod manteision darparu ystod eang o rannau rhydd dros dro ac adnoddau sy’n dod ag ystod eang o gyfleoedd chwarae i annog datblygiad plant drwy chwarae, po fwyaf o bethau yn y gofod chwarae, y mwyaf o ddychymyg a chreadigedd.

Yn ei dro, mae hyn yn darparu amgylchedd hynod hyblyg gyda rhannau rhydd ac adnoddau y gellir eu newid, eu symud o gwmpas sy’n caniatáu i blant chwarae’n annibynnol. Bydd plant yn datblygu gwytnwch, hunanhyder, annibyniaeth, hunanwerth a chreadigrwydd ac ati drwy chwarae mewn amgylchedd hyblyg. Mae newid o’r arferol a darganfod pethau newydd a diddorol yn hybu annibyniaeth ac yn caniatáu i’r plentyn ddianc rhag realiti.
Felly, y gwanwyn hwn, pam ddim beth am gyflwyno rhai rhannau rhydd â thema’r gwanwyn i’ch gofod chwarae, er enghraifft, potiau blodau, sbarion pren, canhwyllbren/ canhwyllau te, pegiau pren, corcynnau, piniau dillad, deunydd lapio swigod, botymau, rhannau pibell PVC, Capiau llaeth, capiau poteli, Las, edau, rhuban, corden, cartonau wyau, cardford, plu, hadau, mesen, afal pinwydd, brigyn collen, blodau.