Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser mawr gennym rannu â chi cyfleoedd arian. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Mae Sefydliad Matthew Good wedi agor rownd nesaf ei Gronfa Grantiau Da. Y nod yw cefnogi elusennau bach, grwpiau di-elw ac entrepreneuriaid cymdeithasol sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth i bobl, eu cymuned neu’r amgylchedd.Bydd y Gronfa yn rhannu £15,000 rhwng pum prosiect ar y rhestr fer bob tri mis, a bydd gweithwyr Grŵp John Good yn pleidleisio drostynt. Bydd y prosiect sy’n derbyn y nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael grant o £5,000, yr ail le £3,500, y drydydd le £2,500 gyda’r pedwerydd a’r pumed le yn cael £2,000.
Yn ogystal â phrosiectau ac elusennau sefydledig, mae’r Sefydliad am glywed gan bobl sydd â syniadau arloesol sydd angen rhywfaint o arian i roi eu prosiectau ar waith.

I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod wedi ennill llai na £50,000 yn y 12 mis diwethaf.
Dyfernir cyllid bob tri mis a’r dyddiad cau nesaf ar gyfer y rownd arian nesaf yw 15fed Mehefin 2025.

Enw’r sefydliad

Y Matthew Good Foundation

Dyddiad Cau:
15-06-2025

Cyllid Cynllun Chwarae
Woodland Trust
Bob blwyddyn mae ymddiriedolwyr  o’r ymddiriedolaeth elusennol Woodward yn neilltuo arian ar gyfer cynlluniau chwarae haf i blant sydd rhwng 5-16 oed o gefndiroedd difreintiedig.

Dim ond rhaglenni sy’n rhedeg am o leiaf 2 wythnos, 10 diwrnod llawn neu 20 hanner diwrnod yn ystod gwyliau’r haf y mae ymddiriedolwyr yn eu hariannu.

 

Link:

https://www.matthewgoodfoundation.org/grantsforgood/

Children’s Summer Playschemes Guidelines – The Woodward Charitable Trust