Ydych chi’n barod am y flwyddyn ariannol newydd?

Ychydig o bethau i’w hystyried a meddwl amdanynt wrth i ni symud o fis Mawrth i fis Ebrill a’r Flwyddyn Ariannol newydd.

  • Ydych chi wedi adolygu eich cynllun busnes?
  • Oes gan eich clwb ddyfodol cynaliadwy?
  • Sut ydych chi’n bwriadu rheoli costau eich clybiau yn 2025/26 ?

 

Mae gennym ystod eang o ddogfennau ategol a chanllawiau yn ein hadnoddau Camu Allan.

  • Rhagolwg llif arian a chanllawiau ategol i chi gynllunio gyda’ch incwm a gwariant presennol neu unrhyw gostau cynyddol.
  • Templedi cyfrifo a fydd yn eich helpu i gadw llygad barcud ar eich sefyllfa ariannol.
  • Templed cynllun busnes a thempled SWOT i chi bwyso a mesur cryfderau, gwendidau, cyfleoedd neu fygythiadau eich busnes.

A yw hyn i gyd yn swnio fel rhywbeth y gall fod arnoch ei angen? Trafodaethau ategol, gwybodaeth bellach, neu hyd yn oed sicrwydd eich bod ar y trywydd iawn gyda’ch Clwb Gofal Plant All-Ysgol?

Adnoddau Camu Allan