
28.03.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Mae Elusen Gwendoline a Margaret Davies yn sefydliad sy’n rhoi grantiau i fod o fydd, yn fras, i’r celfyddydau, addysg, iechyd a materion cymdeithasol yng Nghymru, â’i ffocws ar sefydliadau bychain a lleol.
I fod yn gymwys am grant mae’n rhaid eich bod yn elusen gofrestredig â phresenoldeb yng Nghymru, a rhaid i’r prif fuddiolwyr fod wedi eu lleoli yng Nghymru.