
04.04.2025 |
Ydych chi’n chwilio am fwy o oriau gwaith mewn Clwb Gofal Plant All-Ysgol yng Nghymru?
Rheolwyr Clwb Gwyliau – A oes gennych chi swyddi gwag ar gyfer eich sesiynau Clwb Gwyliau sydd ar y gweill? A ydych chi wedi hysbysebu’r rhain ar ein wefan a’n cyfryngau cymdeithasol?
Staff yn y Clwb – Ydych chi’n gweithio mewn Clwb Gofal Plant All-Ysgol sy’n gweithredu yn ystod y tymor academaidd yn unig? Oeddech chi’n gwybod bod yna Glybiau Gwyliau sy’n gweithredu yn ystod amser gwyliau yn unig?
Mae ein gwefan yn cynnig cyfleoedd i Glybiau i hysbysebu swyddi gwag ac i staff gallu adolygu’r swyddi gwag hyn. Os rydych yn chwilio am fwy o oriau mewn Clybiau Gwyliau, cofiwch gadw llygad ar y swyddi yn eich Clwb Gwyliau lleol.
Mae eich swyddog datblygu busnes gofal plant lleol ar gael i gynnig cymorth. Mae croeso i chi gysylltu â nhw os oes angen cymorth arnoch.