Cynnig Gofal Plant – newidiadau i ddefnyddwyr gwasanaethau

Gwelwch yr ebost derbyniwn 10/04/2025 gan Y Cynnig Gofal Plant i Gymru – Sarita


Annwyl bartneriaid Cwlwm,

Ysgrifennom atoch 19 Mawrth i roi gwybod i chi ein bod yn bwriadu cyflwyno’r One Login GOV.UK fel dull dilysu defnyddwyr Newydd gwasanaeth Cynnig Gofal Plant Cymru o ganol mis Ebrill ymlaen.

Rwy’n falch o gadarnhau y byddwn yn mynd yn fyw gyda’r swyddogaeth hon ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth newydd o 00:01 a.m. Ddydd Llun, 14 Ebrill.

Gall defnyddwyr gwasanaeth newydd fod yn ddarparwyr gofal plant sy’n cofrestru eu lleoliad gyda’r Cynnig Gofal Plant am y tro cyntaf; staff newydd sy’n ymuno â darparwr gofal plant; neu rieni newydd sy’n gwneud cais am y Cynnig. Bydd y defnyddwyr hyn yn cael eu tywys i greu cyfrifon GOV.UK One Login newydd, neu ddefnyddio cyfrifon GOV.UK One Login presennol os yw’n berthnasol, wrth gofrestru i’r Cynnig Gofal Plant.

Fel yr eglurwyd yn ein cyfathrebiad blaenorol, bydd defnyddwyr gwasanaeth sydd eisoes yn defnyddio’r Cynnig Gofal Plant yn cael cynnig yr opsiwn o fudo i GOV.UK One Login o 5 Mai. Byddwn yn cysylltu â nhw yn agosach at ddechrau’r cyfnod mudo gyda negeseuon y byddem yn ddiolchgar iawn am eich help i’w rannu er mwyn cefnogi’r sector gyda’r newid hwn.

Cysylltwch â ni ar bob cyfrif os oes gennych fwy o gwestiynau.

Sarita
Cynnig Gofal Plant Cymru