
25.04.2025 |
Cyfleoedd Ariannu
Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!
Grant Ymgysylltiad Demograffig
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau’r diffig democrataidd yng Nghymru ac yn awyddus i bob person yng Nghymru i wybod sut i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.
Ydych chi am eiriol dros y plant yn eich lleoliad a’ch cymuned? Ydych chi am iddyn nhw gael llais a chael eu clywed? Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £400,000 ar gael i wella ymgysylltiad demograffig ledled Cymru. Gellir gwneud ceisiadau o £1000 neu lai, neu dros, £1000.
Grant ymgysylltu democrataidd: ffurflenni cais | LLYW.CYMRU